SL(5)149 - Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017

Cefndir a diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn cydgrynhoi ac yn diweddaru Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010.

Mae'r Rheoliadau hyn yn trosi Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar warchod cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt ("y Gyfarwyddeb Cynefinoedd”) ac elfennau o Gyfarwyddeb 2009/147/EC ar warchod adar gwyllt (" y Gyfarwyddeb Adar ") yng Nghymru, Lloegr ac, i raddau cyfyngedig, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Amcan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd yw gwarchod bioamrywiaeth trwy warchod cynefinoedd naturiol a rhywogaethau o ffawna a fflora gwyllt. Mae'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn gosod rheolau ar gyfer diogelu, rheoli a datblygu cynefinoedd a rhywogaethau o'r fath.

Y weithdrefn

Negyddol

Materion technegol: craffu

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn, sef nad ydynt wedi’u gwneud yn Gymraeg ac yn Saesneg (Rheol Sefydlog 21.2(ix)).

Mae'r Rheoliadau hyn wedi cael eu gwneud fel offeryn cyfansawdd, sy'n golygu bod y Rheoliadau hyn: (a) wedi cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a (b) wedi cael eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU. Roedd Gweinidogion Cymru o'r farn nad oedd yn rhesymol ymarferol i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud yn Gymraeg a Saesneg.

Fodd bynnag, lle mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth ddwyieithog, mae'r diwygiadau hynny yn y Gymraeg a'r Saesneg (gweler, er enghraifft, paragraff 22 o Atodlen 6). Mae hyn yn dangos y gall deddfwriaeth sy'n cynnwys testun Cymraeg gael ei osod gerbron Senedd y DU (ac mae hyn yn digwydd yn achlysurol).

Craffu ar y rhinweddau

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn, sef eu bod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu eu bod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad (Rheol Sefydlog 21.3(ii)).

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae Deddf 1972 yn rhoi disgresiwn ynghylch pa un ai’r weithdrefn negyddol ynteu'r weithdrefn gadarnhaol a ddylai fod yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Dewiswyd y weithdrefn negyddol, sy'n ymddangos yn briodol o ystyried natur gyfunol y Rheoliadau hyn.

Y Goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Mae'r dadansoddiad a ganlyn yn seiliedig ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ("y Bil") fel y'i cyflwynwyd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o "ddeddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE" o dan gymal 2 y Bil, felly bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu cadw fel cyfraith ddomestig a byddant yn parhau i fod mewn grym yng Nghymru ar y diwrnod ymadael ac ar ôl hynny. Mae'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru addasu'r Rheoliadau hyn er mwyn ymdrin â diffygion sy'n deillio o ymadael â’r UE, yn amodol ar rai cyfyngiadau.

Er enghraifft, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud nifer o gyfeiriadau at y Comisiwn Ewropeaidd (fel gofyn am gytundeb y Comisiwn Ewropeaidd, cyflenwi gwybodaeth i'r Comisiwn Ewropeaidd a rhoi ystyriaeth i farn y Comisiwn Ewropeaidd). Ar hyn o bryd, nid yw'n glir sut y bydd y cyfeiriadau hyn yn gweithio ar y diwrnod ymadael ac ar ôl hynny. A wnaiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r cyfeiriadau gan ddefnyddio eu pwerau o dan y Bil i fynd i'r afael â diffygion yng nghyfraith yr UE a gadwyd? A fydd y materion hyn yn cael sylw mewn cytundeb ymadael? A fydd y materion hyn yn cael sylw mewn fframwaith amgylcheddol cyffredin ar gyfer y Deyrnas Unedig?

O ran y Gyfarwyddeb Cynefinoedd a'r Gyfarwyddeb Adar, ni fydd y Cyfarwyddebau hyn yn rhan o gyfraith ddomestig yn awtomatig ar y diwrnod ymadael ac wedi hynny o dan y Bil. Fodd bynnag, os yw llys neu dribiwnlys wedi cydnabod, cyn y diwrnod ymadael, fod cyfarwyddeb yr UE yn rhoi hawl i unigolyn y gall yr unigolyn ddibynnu arno a'i gorfodi yn y gyfraith, bydd yr hawl honno'n ffurfio rhan o'r gyfraith ddomestig ar y diwrnod ymadael ac ar ôl hynny (gweler cymal 4 o'r Bil).

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y Llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

7 Tachwedd 2017